Lleoliad:
Dyddiad: Dydd Gwener, 9 Hydref 2020
Amser:
09.20
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Catherine Hunt
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddCymunedau@senedd.cymru
------
Rhag-gyfarfod anffurfiol
(09.20-10.00)
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(10.00)
2 Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - trafodion Cyfnod 2
(10.00-13.00)
Yn bresennol:
Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Cath Wyatt, Rheolwr Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau
Cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 16 Gorffennaf 2020, o dan Reol Sefydlog 26.21, y bydd trefn yr ystyriaeth o ran trafodion Cyfnod 2 fel a ganlyn:
Adrannau 88 – 114; Atodlen 9; Adrannau 115 – 135; Atodlen 10; Adran 136; Atodlen 11; Adran 137; Atodlen 1; Adrannau 138 – 158; Atodlen 12; Adrannau 159 – 161; Atodlen 13; Adrannau 162 – 172; Teitl hir.
Dogfennau ategol:
Papur 1 – Rhestr o welliannau wedi'u didoli
Papur 2 – Grwpio gwelliannau
Nodyn: Cyfarfu'r Pwyllgor ddydd Gwener 2 Hydref ac fe wnaeth drafod a gwaredu gwelliannau i Adrannau 1 i 87 ac Atodlenni 2 i 8. Barnwyd bod yr Adrannau a'r Atodlenni hynny wedi'u cytuno.
Bydd dogfennau sy'n berthnasol i'r trafodion Cyfnod 2 ar gael ar dudalen y Bil.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
(13.00)
4 Gohebiaeth gan Archwilio Cymru ynghylch Adran 118 o Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
(13.00-13.05) (Tudalennau 1 - 3)